
Hosted by BBC Radio Cymru · CY
Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Mae Stephen yn cael ei adnabod fel y ‘Doctor Cymraeg’ ac yn adnabyddus fel athro Cymraeg, awdur a chrëwr cynnwys. Mae’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol (Instagram, TikTok a Youtube) er mwyn gwneud dysgu Cymraeg yn hwyl ac yn annog a helpu dysgwyr yr iaith i ennill hyder. Fel rhywun a ddysgodd Cymraeg yn hwyrach ymlaen yn ei fywyd, mae eraill sydd yn wynebu heriau tebyg iddo yn medru uniaethu gydag ef ac mae ei angerdd yn ysbrydoliaeth iddynt. “Gorau, Dysgu, Cyd-Ddysgu” yw ei ‘motto’!Cafodd ei fagu ym mhentref Coed Llai ger yr Wyddgrug mewn ystâd tai cyngor, mewn ardal ddifreintiedig a Stephen oedd y person cyntaf yn ei deulu i fynd i'r Brifysgol. Mae ei Dad, ei Daid a'i Frawd ac ambell ewythr yn gweithio i gwmni Airbus ym Mrychdyn. Fe ddaw o gefndir di-gymraeg, ac anogaeth athrawes yn ysgol Castell Alun wnaeth ei ysbrydoli i ddysgu'r iaith a chael mynd i Jambori yr Urdd yn 12eg mlwydd oed.Fe aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cymraeg gydag Ieithoedd Celtaidd, a bu'n gweithio mewn siop yn y dref H&AR Ellis Hardware am tua dwy flynedd, ac yno y magodd hyder i siarad Cymraeg.Mae ganddo ddilyniant mawr ar y cyfryngau cymdeithasol gydag oddeutu 100 mil yn ei ddilyn.Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys un gan Al Lewis.

Beti George sydd yn cael cwmni ysbrydoledig Mati Roberts, y Nyrs o Gaerdydd sydd wedi helpu i sefydlu ysgol yn Affrica yn ei amser rhydd. Pan welodd Mati Roberts decstilau lliwgar mewn siop yn Affrica fe newidiodd llwybr ei bywyd hi a chymuned gyfan yn Ghana am byth.Deuddeg mlynedd ers disgyn mewn cariad gyda'r defnydd mae ganddi fusnes creadigol sy'n rhoi hwb i economi'r wlad ac yn helpu addysgu dros 200 o blant - a hyn oll wrth barhau i weithio fel nyrs arbenigol yng Nghaerdydd, yn diogelu plant ac yn gofalu am iechyd rhywiol pobol ifanc. Mae Mati yn sôn iddi ddarganfod fod ganddi ddyslecsia a dyspracsia wrth astudio yn y Coleg. Cawn glywed hefyd stori hyfryd am ei Thaid, y diweddar John Rowley oedd yn Bennaeth y BBC yng Nghymru am gyfnod, gafodd ei adael yn fabi bach yn amddifad wrth giât fferm teulu caredig yn Bwlch y Cibau ger Llanfyllin.

Beti George yn sgwrsio gyda'r Albanwr David Sinclair.Yn wreiddiol o Sterling, aeth i Brifysgol Aberdeen, ond gyda'i ddarpar wraig yn byw yng Nghaerdydd, daeth i Gymru i fyw am gyfnod. Ar ôl dysgu'r iaith, mae bellach yn siarad Cymraeg ers degawdau. Wedi cyfnod o fod yn weithiwr cymdeithasol, hyfforddodd i ddod yn weinidog, ac wrth sgwrsio gyda Beti mae ar fin dechrau ar gyfnod newydd yn ei fywyd. Ar ôl bron i ddeng mlynedd o waith mewn eglwys yn Glasgow, mae ef a'i wraig Mary yn paratoi i symud i Prague, gyda'r bwriad o ymddeol ymhen rhyw bedair blynedd.